Croesawn y cyfle
hwn i gynnig ein sylwadau ar y Bil drafft. Mae’r
sylwadau isod yn canolbwyntio ar anghenion y Gymraeg mewn perthynas
â’r maes allweddol hwn.
Byddwn yn galw am
fwy o bwyslais a sylw diamwys i anghenion y Gymraeg:
·
Cynnwys cymal ar wyneb y Bil ac o fewn yr adran Egwyddorion yn
sicrhau hawl plentyn / person ifanc i gael cefnogaeth yn y
Gymraeg
·
Cynnwys cymal yn y Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol,
byrddau iechyd a cholegau addysg bellach i gydweithio a rhannu
gwybodaeth yn y Gymraeg pan fo galw am hynny
·
Dylid cyfeirio’n benodol at anghenion parthed y
Gymraeg yn y Cod Ymarfer. Nid yw’n ddigonol na
derbyniol cyfeirio at anghenion cyfathrebu a hygyrchedd yn y
cyd-destun hwn. Byddwn yn galw am sylw penodol i’r
meysydd canlynol:
·
hawl y plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i gael trafod y
CDU yn y Gymraeg, ar unrhyw adeg yn y broses (llunio, adolygu ac
ati)
·
hawl i ddarpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg (0-25
oed) a sicrhau dilyniant ieithyddol
·
hawl i wneud a gwrando apêl yn y Gymraeg (drwy
brosesau lleol a gerbron y Tribiwnlys)
·
darpariaethau ynghylch y Gymraeg mewn perthynas
â chydweithio aml-asiantaeth
·
darpariaethau ar gyfer cynllunio'r gweithlu i sicrhau
cyflenwad digonol o arbenigwyr sy'n siarad Cymraeg
·
eiriolaeth annibynnol yn y Gymraeg
|